Gyda golygfa heddychlon dros afon Tawe, mae ein llety i fyfyrwyr Abertawe mewn lleoliad delfrydol ar gyfer bywyd y brifysgol yn y ddinas. Wedi'i leoli ar Heol Morfa, byddwch chi’n dod o hyd i ddigon o leoedd i fwyta a bywyd nos i'w mwynhau gyda’ch cyd-letywyr newydd. Mae ein lleoliad yn golygu ein bod yn y lle gorau i fwynhau popeth sydd gan Abertawe i'w gynnig; mae modd cerdded yn hwylus i Fae Abertawe, yr Ardal Forol a'r marina. Felly, os ydych chi’n hoffi mynd am dro tawel ar bwys yr afon neu fwrlwm y strydoedd prysur, mae popeth gennym ni yn ein llety myfyrwyr yn Abertawe.
Yn daith fer o Brifysgol Abertawe, rydym ni'n lleoliad delfrydol ar gyfer eich astudiaethau. Ceir llety preifat i fyfyrwyr a fflatiau myfyrwyr a rennir; mae lle i bob personoliaeth yn true Swansea.